Staff Type: Staff
Contact
-
BACK
SHAREStaff a Chyfranwyr
-
Mae gan ein staff brofiad sylweddol o drosi ymchwil ac arloesedd yn llwyddiannus yn gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd.
Rydym wedi gweithio hefyd ar fasnacheiddio gwybodaeth, syniadau a chysyniadau newydd i lawer o’n cleientiaid.
Mae gan staff CBM flynyddoedd lawer o brofiad hefyd yn rheoli portffolio amrywiol o brosiectau’n llwyddiannus, gan gynnwys Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, prosiectau dan nawdd Ewropeaidd a phrosiectau Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig.
BACK
SHAREStaff & Contributors
-
Our staff have considerable experience of successfully translating research and innovation into new products, processes and services.
The CBM staff team also have many years of experience in successfully managing a diverse portfolio of projects, including Product Development, Prototype and Batch Manufacture, Knowledge Transfer Partnerships, European-funded projects and UK Research Council projects.
BACK
SHAREYmchwil a Newyddion
-
Mae ymchwil yn greiddiol i waith CBM. Yma cewch weld ein newyddion diweddaraf, astudiaethau achos a thestunau ymchwil.
Mae CBM yn arbenigo mewn ymchwil gymhwysol ar lefel ddoethurol ym maes cymhwyso technolegau uwch i brosesau gweithgynhyrchu. Mae bod yn ymchwilydd PhD yn CBM yn golygu chwarae rhan ymarferol mewn datblygu proffil ymchwil y ganolfan ar draws nifer o feysydd ymchwil.
Mae gan staff CBM brofiad helaeth a llwyddiannus o oruchwylio cwblhad doethuriaethau PhD a rheoli’r broses ymchwil ar gyfer PhD.
Bydd CBM wastad yn croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwneud ymchwil PhD ym meysydd gweithgynhyrchu, technolegau a deunyddiau uwch.
Ymchwil PhD
Ar hyn o bryd mae gennym le i 5 ymchwilydd PhD a gaiff eu hariannu’n llawn yn y meysydd canlynol:
- Dadansoddi Elfennau Meidraidd ar gyfer dilysu’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion gweithgynhyrchu adiol;
- Optimeiddio dyluniad cynhyrchion meddygol gan ddefnyddio technoleg sganio 3D;
- Cymhwyso Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch i’r sector crefft;
- Datblygu technoleg Toddi â Phelydr Electronau ar gyfer cydrannau aerofod lle mae diogelwch yn elfen gritigol;
- Gwerthuso deunyddiau safon uwch ar gyfer mewnblaniadau meddygol a gynhyrchir trwy ddulliau gweithgynhyrchu adiol.
BACK
SHARE